Rhif y ddeiseb: P-06-1401

 

Teitl y ddeiseb:

Rhaid sicrhau nad yw bwydydd sy’n cael eu caffael yn gyhoeddus yng Nghymru byth yn fegan nac yn llysieuol yn unig

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi dechrau deiseb sy’n ceisio ei gwneud yn ofynnol i bob bwyd a gaffaelir yn gyhoeddus yng Nghymru fod yn llysieuol neu'n fegan.

Dylai unigolion gael dewis beth y maent yn ei fwyta.

Mae ceisio dweud wrthym beth i’w fwyta yn sarhad ar bobl Cymru.

Mae’n sarhad ar y ffermwyr yng Nghymru sy’n ceisio ennill bywoliaeth.

Mae’n niweidiol hefyd i economi Cymru.

 

 


1.        Y cefndir

Cyflwynwyd y ddeiseb hon mewn ymateb i ddeiseb gynharach yn galw am “i bob bwyd a gaffaelir yn gyhoeddus yng Nghymru fod yn llysieuol neu'n fegan”. Fodd bynnag, ni  lwyddodd y ddeiseb honno i gasglu'r 250 o lofnodion roedd eu hangen i’w chyfeirio at y Pwyllgor.

Cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, ddatganiad ysgrifenedigym mis Rhagfyr 2022 yn tanlinellu pwysigrwydd y sector bwyd i’r Economi Sylfaenol yng Nghymru. Tynnodd sylw at y posibilrwydd o ddatblygu dull mwy cyfannol o gaffael bwyd yn gyhoeddus ac i gyrff yn sector cyhoeddus Cymru gaffael mwy o gynnyrch Cymreig.

Ynghyd â’r datganiad, cyhoeddodd y Gweinidog adnodd caffael bwyd ar-lein, sef 'Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol'. Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth i helpu i gaffael bwyd yn fwy cynaliadwy. Nid yw'r datganiad na'r pecyn cymorth yn argymell gorfodi neb i gaffael cynhyrchion cig nac i atal neb rhag gwneud hynny.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, atoch mewn perthynas â’r ddeiseb hon yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar hyn o bryd i ddatblygu canllawiau statudol a rheoliadau i ategu’r dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyfrifol o dan Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Mae'n dweud y gallai'r canllawiau fod yn gyfle i rannu arfer da mewn perthynas â chaffael bwyd mewn modd cymdeithasol gyfrifol.

Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd mai mater i gyrff cyhoeddus yw gwneud eu penderfyniadau caffael eu hunain yn unol â’u hanghenion hwy cyn belled â’u bod yn gwneud hynny o fewn yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu. Wrth gynnig gwasanaeth fel bwyd, meddai, bydd cyrff cyhoeddus yn ystyried yr hyn y mae defnyddwyr am ei fwyta, cyhyd ag y bo hynny’n rhesymol bosibl.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Nid yw Ymchwil y Senedd yn ymwybodol bod y mater penodol hwn wedi’i godi yn y Senedd yn ddiweddar.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.